Mae’r band amgen o Gaernarfon, Pasta Hull, wedi rhyddhau eu halbwm newydd. ‘Mmm Beanz’ ydy enw record hir ddiweddaraf y grŵp aml-arddull ac mae wedi’i rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol.
Wyth o draciau sydd ar y record hir diweddaraf sydd allan ar label Recordiau Noddfa, ac yn ôl y band bydd fideo ar gyfer pob un o’r traciau.
Mae’r fideo ar gyfer y trac ‘Myrddin Machine’ eisoes i’w weld ar sianel YouTube Recordiau Noddfa.
Mae’r record hir ddiweddaraf yma’n ddilyniant i’r albyms ‘Achw Met’ a ryddhawyd yn 2017, a ‘Chawn Beanz’ a ryddhawyd ganddynt yn 2019.