Rhyddhau albwm Ni a Nhw gan Carwyn Ellis

Mae’r cerddor profiadol, Carwyn Ellis, wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf sy’n gasgliad o ganeuon prosiectau amrywiol yr artist dros y blynyddoedd diwethaf. 

Ni A Nhw ydy enw’r casgliad diweddaraf ganddo sy’n cynnwys traciau Cymraeg eu cyfrwng yn bennaf ac wedi eu tynnu o gatalog y pedwar prif brosiect cerddorol mae Carwyn wedi eu harwain sef Colorama, Rio 18, Bendith a’i gerddoriaeth unigol. 

Mae’r casgliad, sydd wedi eu hysgrifennu dros gyfnod o ddeng mlynedd, ar gael i’w ffrydio am y tro cyntaf ers dydd Gwener 8 Rhagfyr drwy Recordiau Bubblewrap. 

Mae’r gerddoriaeth yn bennaf yn dilyn arddull werin-pop/canwr-gyfansoddwr ac felly er bod y caneuon yn ymestyn dros sawl prosiect gwahanol, mae’r casgliad yn cyd-blethu’n grefftus. 

Yn eu plith mae hen ffefrynnau amlwg – gan gynnwys ‘Llythr Y Glowr’, ‘Gall Pethau Gymryd Sbel’ a ‘Ti’, traciau sydd wedi byw a bod ar raglenni BBC Radio Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf. 

Mae hefyd ambell gyfyr ar y casgliad megis ‘Gorffennaf’ (‘Luglio’ yn ei Eidaleg gwreiddiol) a ddaeth allan gyda Rio 18 dros yr haf, yn ogystal â ‘Cân Am Gariad’ (‘Love Song’ gan Lesley Duncan) a ‘Hwiangerdd Takeda’ (‘Takeda no Moriuta’ yn ei ffurf Siapaneaidd gwreiddiol), y ddwy wedi’u recordio gyda Bendith ar gyfer eu EP 12” ddaeth allan ar y label chwedlonol Aficionado yn 2017. 

Mae ail ran yr albwm yn cymryd trywydd ychydig yn wahanol, yn fwy electronig, gan ddechrau gyda ‘Kerro’, sy’n dod oddi ar albwm Colorama ‘Llyfr Lliwio’ a ryddhawyd yn 2011, cyn cloi gydag ailgymysgiad y cynhyrchydd Begin o ‘Hapus?’ gan Colorama. 

Mae’n debyg bod Carwyn yn agosáu at orffen ei albwm newydd gyda Rio 18, fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2024, ond yn y cyfamser mae’r casgliad hwn yn ein hatgoffa o allu amryddawn y cerddor nid yn unig fel canwr ond hefyd fel cyfansoddwr, trefnydd a chynhyrchydd arbennig. 

Mae ‘Ni A Nhw’ ar gaelar ffurf finyl a CD nawr drwy wefan label Bubblewrap a thudalen Bandcamp Carwyn Ellis, yn ogystal ag ar y llwyfannau digidol arferol.

Dyma ‘Ti’ o’r albwm: