Un o’r bandiau hynny a welodd eu cynlluniau’n cael eu harafu dipyn gan y cyfnod clo oedd Dienw, ond o’r diwedd mae’r band o Arfon wedi llwyddo i ryddhau eu halbwm cyntaf.
Mae’r albwm yn rhannu enw’r band ac wedi’i ryddhau gan label Recordiau I Ka Ching.
Twm Herd ac Osian Land ydy aelodau Dienw a bu’r ddau wrthi’n recordio’r caneuon yn Stiwdio Ferlas, gyda Rich Roberts yn cynhyrchu, rhwng Hydref 2019 a Gwanwyn 2023. Twm sy’n canu, chwarae gitâr, gitâr fas a’r piano, ac Osian ar y drymiau, llais, piano, offerynnau taro a’r allweddellau.
Ffurfiodd y band fel rhan o brosiect Marathon Roc yn 2017, gan greu argraff mewn gigs byw wedi hynny.
Mae’n teimlo fel oes ers iddynt ddal sylw pawb gyda’u sengl gyntaf, ‘Sigaret’, yn Hydref 2019 , ac fe wnaethon ofyn iddyn nhw chwarae yng Ngwobrau’r Selar yn Chwefror 2020 gan deimlo’n sicr eu bod nhw’n fand i’w gwylio dros y flwyddyn honno.
Ond, fel band newydd rhaid rhoi clod iddynt am eu dyfalbarhad ac maent wedi llwyddo i oroesi heriau a rhwystredigaethau’r cyfnod clo i ryddhau eu halbwm cyntaf o’r diwedd.
Mae pump allan o’r deg cân eisoes wedi eu rhyddhau fel senglau, sef ‘Bwystfil Prydferth’, ‘Ffilm’, ‘Ffydd’, ‘Targed’, ac ‘Emma’, a llawer o’r caneuon hynny wedi eu hadeiladu o syniadau bras iawn yn y stiwdio.
Adeiladu ar sŵn Dienw
Roc seicadelig, heb os, yw prif diriogaeth yr albwm, gan wyro’n llawer trymach yn achlysurol. Mae cynnyrch bandiau alt-roc o tua 2013 – 2016 wedi ysbrydoli’r cynhyrchu; albyms tebyg i ‘AM’ gan Arctic Monkeys, ‘Like Clockwork’ gan Queens of the Stone Age, ac ‘Everything You’ve Come To Expect’ gan The Last Shadow Puppets.
“Ar ôl pedair blynedd o weithio ar yr albwm, ’da ni mor hapus i chi glywed y caneuon newydd ’ma,” meddai Twm.
“Mai’n albwm sy’n adeiladu ar y sŵn Dienw ’da chi ’di dod i’w adnabod erbyn hyn – gyda’r gitars mor sgleiniog, y tiwns mor fachog, a’r drymiau mor aruthrol ag arfer.
“Roedd gweithio ar yr albwm gyda Rich Roberts yn brofiad nawn ni fyth anghofio, gyda Rich yn ein gwthio ni i arbrofi a darganfod sain ein hunain, gan greu record sy’n swnio’n gyfarwydd ond eto fel dim byd cerddorol Gymraeg.”
Yn glynu’r senglau a’r albwm at ei gilydd yn weledol mae gwaith celf drawiadol Twm sy’n gasgliad o ddelweddau archifol Americanaidd sy’n amlygu teimlad cerddorol yr albwm.
Roedd cyfle i weld Dienw yn perfformio’n fyw i lansio eu halbwm yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, ar y dyddiad rhyddhau, sef nos Wener 17 Tachwedd.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Targed’ a gyhoeddwyd ar lwyfannau Lŵp, S4C: