Mae tri o albyms cantores amlwg o’r 1970au ac 1980au ar gael yn ddigidol am y tro cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 29 Medi.
Eirlys Parri ydy’r gantors dan sylw ac yn ystod y 1980au roedd yn un o leisiau amlycaf Cymru.
Bryd hynny, roedd ei halbyms yn cael eu rhyddhau ar ffurf recordiau feinyl a chasét wrth gwrs, ond bellach maen nhw ar gael ar y llwyfannau digidol arferol hefyd. Dyma fydd y tro cyntaf i’r rhan fwyaf o’r 40 o draciau ganddi fod ar gael yn ddigidol.
Yn wreiddiol o Morfa Nefyn daeth Eirlys yn amlwg fel cantores yn ifanc, tra yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Ymunodd gyda’r grŵp canu ysgafn Lleisiau’r Llwyn o ardal Llwyndyrus gan deithio o gwmpas i ganu mewn capeli a neuaddau pentref ar hyd y wlad.
Ar yr un pryd, roedd Eirlys hefyd yn brysur wneud ei marc fel cantores unigol a thrwy ei pherfformiadau mewn cyngherddau ac ar y teledu rhoddodd fywyd newydd i’r sîn bop a gwerin Cymraeg o ddiwedd y 60au ymlaen. Ar glawr ei record i label Tŷ ar y Graig yn 1970 cyfeiriodd Ruth Price ati fel “un o’r lleisiau sy’n aros yn y cof” gan nodi i’r caneuon afael ynddi o’r cychwyn.
Yn 1970 hefyd daeth cyfle i recordio ar label newydd Sain a rhyddhawyd y record fer ‘Blodau’r Grug’ yn cynnwys caneuon gwerinol hyfryd fel ‘Y Ferch a’r Morwr’, ‘Porthdinllaen’ yn ogystal â’r gân ‘Blodau’r Grug’, cyfieithiad Eirlys ei hun o un o ganeuon y Bee Gees, a’i llais, yn ôl Dafydd Iwan yn y cyflwyniad i’r record, yn “llawn o ramant hiraethus y môr a’r mynydd”. Mae’r record hon a’r ail sengl ganddi ar label Sain, ‘Ti Yw Fy Nghân’ ar gael yn ddigidol.
Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, ‘Cân y Gobaith’, ar label Gwerin yn 1979, yna yn y 1980au, cyfnod pan ddatblygodd poblogrwydd Eirlys ymhellach, cafodd ddwy gyfres deledu ei hun ar S4C a rhyddhawyd y dair record hir ar Sain, ‘Cannwyll yn Olau’ ac ‘Yfory’ wedi eu cynhyrchu gan Gareth Hughes-Jones a ‘Ffordd y Ffair’ wedi ei chynhyrchu gan Hefin Elis a’i rhyddhau gyda chydweithrediad Teledu’r Tir Glas ac S4C.
Gyda chlasuron fel y ‘Yfory’ (Robat Arwyn a Geraint Eckley) a ‘Cannwyll yn Olau’ (Eirlys Parri a Geraint Eckley) ac amrywiaeth o ganeuon a baledi mewn arddulliau poblogaidd, sioe a gwerin, wedi eu cyfansoddi gan rai fel Huw Chiswell, Arfon Wyn, Delwyn Siôn, Siân Wheway ac Eirlys ei hun, mae holl rychwant ei llais godidog ar yr albyms yma.
Dyma’i chân enwocaf o bosib, ‘Yfory’: