Rhyddhau EP cyntaf Dadleoli

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Dadleoli, wedi rhyddhau eu EP cyntaf ers dydd Gwener 14 Gorffennaf. 

‘Diwrnodau Haf’ ydy enw’r record fer gyntaf gan y grŵp newydd ac mae allan ar label Recordiau JigCal. 

Band pump aelod ydy Dadleoli sef Efan, (prif-leisydd), Jac (bas), Tom (gitâr/sax), Caleb (dryms) a Jake (allweddellau). Ffurfiwyd y band yn ystod haf 2022 yn dilyn prosiect ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl. Ers hynny maent wedi chwarae gigs yn Clwb Ifor Bach, Gŵyl Triban, Canolfan Yr Urdd a hefyd lansio eu sengl gyntaf ‘Cefnogi Cymru’ yn y Paget Rooms, yn cefnogi neb llai na Dafydd Iwan. 

Rhyddhaodd y band y sengl honno ym mis Tachwedd llynedd wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru baratoi am eu hymgyrch yn Nghwpan y Byd Qatar. 

Ddiwedd mis Mehefin fe ryddhaodd Dadleoli eu hail sengl, ‘Haf i Ti’, fel blas o’r hyn oedd i ddod ar eu EP cyntaf. Fe gafodd ymateb arbennig a chael ei ffrydio dros 1,000 o weithiau o fewn 24 awr o gael ei rhyddhau. 

Mae’r EP, fel mae’r enw ‘Diwrnodau Haf’ yn awgrymu, yn parhau gyda’r themâu hafaidd ac yn gweld y band yn creu alawon bachog, cofiadwy. 

“Mae’r gân yma’n arbrofi gyda steil newydd o gerddoriaeth i’r band ac rydym wedi mwynhau’r broses o’i hysgrifennu” meddai Efan wrth gyfeirio at y sengl ‘Haf i Ti’. 

“Ar ôl gweld llwyddiant ein sengl gyntaf ‘Cefnogi Cymru’, roedd y band wedi darganfod steil oedd yn gweithio i ni ac rydym yn gyffrous i ysgrifennu mwy yn yr arddull.”

Dyma’r teitl drac, ‘Diwrnodau Haf’: