Rhyddhau EP Ritual Cloak

Mae’r grŵp o Gaerdydd, Ritual Cloak wedi rhyddhau eu EP newydd ers dydd Gwener 14 Ebrill.

‘Vanished in Transition’ ydy enw’r record fer ddiweddaraf gan y ddeuawd amgen sy’n eu symud i gyfeiriad cerddorol newydd sy’n cynnwys dylanwadau cerddoriaeth ambient,  jazz, doom metal ac arbrofi Indiaidd George Harrison.

Ritual Cloak ydy Daniel Barnett, gynt o’r band Samoans a’r drymiwr/cynhyrchydd Andrew Sanders. Ar y record newydd maent yn cael cwmni Rob Smith o’r bandiau Wobderbrass a Wylderness, Harri Rees a Karl Griffiths o Morning Arcade.

Mae chwech trac ar yr EP gan gynnwys y gân agoriadol sydd â’r teitl Cymraeg, ‘Gweledigaeth’. Hon oedd y gân olaf i’w ysgrifennu a recordio ar gyfer yr EP – daeth yr alaw i Dan ac fe’r ysgrifenodd a recordiodd mewn un take