Rhyddhau Gog Magog yng Ngogledd America

Mae albwm diweddaraf y triawd gwerin The Trials of Cato bellach wedi’i ryddhau’n swyddogol yng Ngogledd America.

Rhyddhawyd ‘Gog Magog’, sef ail albwm y band sydd a’u gwreiddiau yn ardal Wrecsam, ym Mhrydain nôl ym mis Tachwedd 2022 ac ers 24 Chwefror mae hefyd ar gael yng Nghanada ac UDA.

Mae dyddiad rhyddhau’r albwm yno’n amserol gan fod y band yn paratoi i berfformio cyfres o gigs yn America gan ddechrau yng ngŵyl South by Southwest (SXSW) yn Austin, Texas ar 16 Mawrth.

Byddan nhw’n perfformio 11 o gigs wedi hynny gan ymweld â California, Oregon a New Mexico cyn cloi’r daith gyda gig yn Washington ar 2 Ebrill.

Mae holl ddyddiadau gigs The Trials of Cato i’w gweld ar wefan y band.