Rhyddhau sengl ddiweddara’ Malan

Mae’r gantores jazz pop o’r Gogledd, Malan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.

‘Magic’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label The Plybook ers dydd Gwener diwethaf, 15 Medi.

Mae’r trac newydd wedi’i gyd-ysgrifennu gan Nate Williams ac ar gael ar y llwyfannau digidol arferol. 

Ar gyfer y sengl newydd, mae Malan hefyd wedi mynd ati i gyd-weithio gyda’r cerddor arall o’r Gogledd, meiblio, oedd yn arfer perfformio dan yr enw Ennio The Little Brother.

Yn ôl y label, mae’r sengl yn flas o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar EP Malan fydd allan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.