Rhyddhau sengl ddiweddaraf Hyll

Wrth i Hyll baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf, mae’r band o Gaerdydd wedi gollwng tamaid bach arall i aros pryd nes y record hir. 

‘Mike’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau JigCal.

Dyma’r ail sengl iddynt ryddhau o’u halbwm newydd, gan ddilyn ‘Hanner Marathon’ a ryddhawyd ar 23 Mehefin

Mae’r caneuon hyn yn gweld Hyll yn torri tir newydd. Wedi’i ysbrydoli gan Nick Cave, Walt Whitman, Virginia Woolf, tirwedd ôl-ddiwyllianol Cwm Cynon a “boi o Seoul nath Iwan gwrdda mewn house party”, mae ‘Mike’ yn archwiliad mewn i hunaniaeth, hanes a mathau gwahanol o berthnasoedd personol sy’n siapio ein bywydau. 

“Bydd angen gwregys ar gyfer y siwrne hon,” eglura’r band. 

Mae ‘Mike’ allan ar y llwyfannau digidol arferol nawr, a bydd albwm Hyll, ‘Sŵn o’r Stafell Arall’, yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Gorffennaf. 

Bydd gig lansio arbennig ar gyfer yr albwm yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 28 Gorffennaf.