Rhyddhau sengl Diffiniad ‘Seren Wib’ 

Mae’r grŵp dawns bytholwyrdd o’r Wyddgrug, Diffiniad, wedi rhyddhau eu sengl newydd ‘Seren Wib’. 

Rhyddhawyd y trac ar y 25 Awst, gan ddilyn ‘Peryglus / Aur’ ryddhawyd yn gynharach eleni, ac ambell sengl arall sydd wedi ymddangos ers 2019, gan nodi rhyw fath o comeback ganddynt. 

Daeth y grŵp, fu’n weithgar yn ystod y nawdegau, yn ôl i amlygrwydd pan y gwnaethon nhw berfformio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.