Rhyddhau sengl gyntaf Ble?

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Ble?, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar label recordiau newydd sbon o’r enw Amhenodol.

‘Epiphany’ ydy enw  sengl gyntaf y band roc pres o dde Cymru ac maent yn rhyddhau’r gân union flwyddyn ers chwarae eu gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. 

Ffurfiwyd y band ar gefn prosiect ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl 2022 ac ers hynny, maent wedi bod yn prysur wneud enw iddyn nhw ei hunain o fewn cylchoedd cerddorol Caerdydd, gyda’u perfformiadau byw yn cynnig egni heintus, melodïau cofiadwy ac alawon trawiadol ar y trwmped a’r sacsoffon.

Er bod naws positif i sengl gyntaf y band, mae ganddi stori ddofn yn perthyn iddi yn ôl prif ganwr Ble?

“Mae’n gân o anobaith a sylwi ar sut mae amser wedi mynd heibio mor gyflym ac mae’r delyneg gyntaf “Sylweddoli mae ‘di bod yn ddigon hir” yn dangos pa mor hawdd yw hi i ni beidio sylwi ar bethau pwysig yn ein bywyd prysur” eglura Iestyn Gwyn Jones. 

Mae Ble? yn rhestru Frizbee, Band Pres Llareggub, Fountains Of Wayne, Yws Gwynedd, Fleur De Lys a Candelas ymysg eu dylanwadau ac maent wedi chwarae llond llaw o gigs dros Gymru yn barod gan gynnwys Tafwyl, Parti Ponty, The Moon Caerdydd a Clwb Ifor Bach. 

Roedd Ble? ar restr ‘Artistiad Ifainc i’w gwylio yn 2023’ Y Selar a baratowyd gan Ddirprwy Olygydd Y Selar, Gruffudd ab Owain ym mis Ionawr eleni.  

Bydd cyfle i weld y band ifanc yn chwarae yng Ngŵyl Seidr Gwaelod y Garth a Tafwyl eleni. 

I gyd-fynd â’r sengl, bydd fideo ar gyfer ‘Epiphany’ yn dilyn cyn bo hir hefyd. 

Roedd y band ar raglen Heno, S4C, ar yn perfformio ‘Epiphany’ ar ddiwrnod rhyddhau’r sengl: