Rhyddhau sengl swyddogol Eisteddfod yr Urdd

Wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Llanymddyfri yr wythnos hon, mae cân newydd wedi’i rhyddhau i nodi’r achlysur. 

Hana Lili, Adwaith a merched Sir Gar sydd wedi cyfansoddi, recordio a chynhyrchu’r gân arbennig i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr.

‘Ein Gwlad’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i rhyddhau gan yr Urdd ac sydd wedi ei chreu gan bobl ifanc yr ardal.  

Ysgrifennwyd y gân mewn gweithdai arbennig ar y cyd ag Yr Egin a Merched yn Gwneud Miwsig. Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn brosiect ar y cyd rhwng Clwb Ifor Bach a Maes B sy’n rhoi lle saff i ferched i ddysgu sgiliau newydd mewn gweithdai dros Gymru. Mae hwn hefyd yn un o brosiectau celfyddydol #FelMerch sydd yn ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru merched ifanc drwy greu. 

Yn y gweithdy cyntaf, aeth Hollie Singer a Gwenllian Anthony o’r band Adwaith i ddosbarth cerdd yn Ysgol Maes y Gwendraeth i gyfansoddi’r alaw a’r geiriau i’r gân. Yna, rhai diwrnodau’n ddiweddarach, cynhaliwyd gweithdy recordio a chynhyrchu wedi’i arwain gan Hana Lili a Steffan Rhys Williams yng Nghanolfan S4C yr Egin i recordio’r sengl a’i chynhyrchu ar y cyd gyda chriw o ferched lleol o Sir Gaerfyrddin. 

Does dim angen llawer o gyflwyniad ar adwaith Adwaith – mae’r band ôl-bync o Gaerfyrddin, sydd wedi teithio’r byd gyda’u cerddoriaeth a’r band cyntaf erioed i ennill Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith am eu halbyms ‘Melyn’ a ‘Bato Mato’. 

Mae Hana Lili yn gerddor a chynhyrchydd amlwg iawn o’r Bari sydd wedi teithio ar draws Prydain yn perfformio ac mi fydd hi’n cefnogi Coldplay yn Stadiwm y Principality yn yr Haf.

Bydd Hana Lili ac Adwaith yn perfformio yng Ngŵyl Triban wythnos yma, sef gŵyl o fewn gŵyl Eisteddfod yr Urdd sy’n cael ei gynnal ar benwythnos olaf yr Eisteddfod, 2-3 Mehefin. Bydd llwyth o artistiaid eraill yn perfformio yn ystod y penwythnos gan gynnwys Dafydd Iwan, N’famady Kouyate, Tesni Hughes ynghyd â pherfformiad ‘Chwilio’r Chwedlau’ gan Queer Emporium. 

Mae’r sengl allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol ers 26 Mai ar label Urdd Gobaith Cymru ac roedd hi’n Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf. 

I gyd-fynd â’r dyddiad rhyddhau, cyhoeddwyd fideo cerddoriaeth arbennig ar gyfer ‘Ein Gwlad’ sydd i’w weld ar sianel YouTube Urdd Gobaith Cymru ers dydd Gwener.