Rhyddhau sengl unigol gyntaf Bendigaydfran

Mae’r canwr, a’r personoliaeth amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol, Bendigaydfran wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 23 Mehefin. 

‘Pwy Sy’n Crio Nawr?’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh. 

Bendigaydfran ydy Lewis Owen a ddaw’n wreiddiol o Ferthyr ac sydd wedi gwneud enw i’w hun ar lwyfannau Twitter a TikTok. 

Cafodd Côsh eu cyflwyno i Bendigaydfran, sy’n byw yng Nghaerdydd, wrth iddo ryddhau ei drac ar y cyd gyda Popeth, prosiect pop Cymraeg Ynyr Roberts, gynt o Brigyn. Rhyddhawyd eu sengl ‘Blas y Diafol’ ym mis Hydref 2022. 

Nawr mae Bendigaydfran yn ôl gyda’i sengl unigol gyntaf, ‘Pwy Sy’n Crio Nawr?’. 

Ag yntau eisoes wedi bod yn llygaid y cyhoedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi iddo fynd yn feiral ar TikTok, mae Lewis Owen nawr yn gobeithio y bydd ei gerddoriaeth yn cyrraedd yr un uchelfannau. 

“Rydw i wedi cael digon o ddynion afiach a fi sy’n rheoli fy mywyd fy hun! Dyna yw neges ‘Pwy Sy’n Crio Nawr?’ – y pŵer rydych chi’n ail-ddarganfod ynoch chi’ch hun ar ôl bod mewn perthynas gwenwynig” meddai Lewis.  

“Mae hon yn gân ddawns gyda thempo cyflym a bass dwfn, gorfoleddus ac ecstatig iddi. Mae yna fwlch ym myd cerddoriaeth Gymraeg am gerddoriaeth ddawns, clwb, cwiyr a dyma gân sy’n dathlu hynna i gyd – mae’n fis Pride a dyma ni’n dathlu ein hunaniaeth a’r nerth sydd ynom ni oll.”