Rhyddhau sengl unigol gyntaf Dafydd Owain

Bydd Dafydd Owain yn enw ac wyneb cyfarwydd i lawer o bobl sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac mae wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf . 

Dros y blynyddoedd mae Dafydd wedi bod yn aelod o’r bandiau Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco. 

Er hynny,  sengl newydd, ‘Uwch Dros y Pysgod’, ydy ei gynnyrch unigol cyntaf ac mae allan ar label I KA CHING er 27 Ionawr. 

Y newyddion pellach ydy mai hon ydy’r gyntaf o gyfres o senglau gan Dafydd fydd yn arwain at gyhoeddi albwm yn ddiweddarach yn y flwyddyn – cyffrous iawn! 

Dylanwad Sam Tân

“Cân lled-hunan-bortreadol yw ‘Uwch Dros y Pysgod’ sy’n taro golwg ar fodlonrwydd diniwed plentyndod gyfochr â melancoli dryslyd bod yn oedolyn”, meddai Dafydd.  

“Mae hi’n gân sy’n seiliedig ar bentref dychmygol dan yr un  enw – pentref tebyg iawn i’r pentrefi ar raglenni megis Joshua Jones neu Sam Tân. 

“Roeddwn yn arfer gwylio rhaglenni o’r fath yn ddeddfol pan yn blentyn ac yn cymryd cysur o’u straeon fformiwläig. Do’dd na’m ots pa mor enfawr oedd y broblem, roedd popeth wedi ei ddatrys ac yn ôl i normal erbyn diwedd y bennod deng munud. 

“Doedd y rhaglenni ’ma’n fawr o baratoad i fod yn oedolyn.” 

Fideo Lŵp

Mae Dafydd wedi recriwtio nifer o gerddorion adnabyddus i berfformio ar ‘Uwch Dros y Pysgod’ gan gynnwys Osian Williams (Candelas, Blodau Papur), Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Gethin Griffiths (Ciwb, Elis Derby) ac Elan Rhys (Plu, Carwyn Ellis & Rio 18). 

Cynhyrchwyd y sengl gan Llŷr Pari sy’n hen gyfarwydd â gweithio gyda Dafydd pan oedd y ddau’n aelodau o Palenco a Jen Jeniro.  

I gyd-fynd â’r sengl, mae  fideo wedi cael ei gyhoeddi gan Lŵp, S4C ychydig ddyddiau cyn rhyddha’r sengl. Cyfarwyddwyd y fideo gan Dafydd Huws (Amcan) ac mae’n cynnwys model o bentref Uwch Dros y Pysgod a grëwyd gan Cai ac Efa Dyfan. 

Dyma’r fid: