Y band pop amgen o Sir Gâr, Rogue Jones, sydd wedi ennill teitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) eleni.
Datgelwyd y newyddion mai eu record hir hwy, ‘Dos Bebés’ oedd wedi dod i frig y rhestr fer o albyms o Gymru eleni mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Fawrth 10 Hydref.
‘Dos Bebés’ ydy ail albwm y band sy’n cael eu harwain gan y pâr priod Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan, ac fe’i ryddhawyd ym mis Mawrth 2023 ar label Recordiau Libertino.
Dyfeisiwyd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth, John Rostron ac fe’i dyfarnwyd am y trydydd tro ar ddeg eleni.
Mae’r wobr yn un sy’n ennyn dipyn o barch ymysg y gymuned gerddorol Gymreig a rhyngwladol, ac yn ogystal â’r bri ac anrhydedd, mae’r enillydd yn derbyn £10,000 o wobr.
Ymysg yr enillwyr blaenorol mae Gruff Rhys, The Gentle Good, Gwenno ac Adwaith ddwywaith.
Roedd 130 o recordiau ar y rhestr hir o albyms cymwys eleni, a’r rhestr hwnnw wedi’i dorri lawr i 15 oedd ar y rhestr fer.
Roedd nifer o recordiau Cymraeg ar y rhestr fer eleni sef Cerys Hafana – ‘Edyf’, Dafydd Owain – ‘Uwch Dros y Pysgod’, Hyll – ‘Sŵn o’r Stafell Arall’, Sister Wives – ‘Y Gawres’, Sŵnami – ‘Sŵnamii’, Ynys – ‘Ynys’. Roedd albwm diweddaraf John Cale, ‘Mercy’ hefyd ar y rhestr fer ynghyd â ‘Milk For Flowers’ gan H. Hawkline.