Mae Rogue Jones wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 6 Hydref.
‘Babette / Lemonade’ ydy enw’r cynnyrch diweddaraf ganddynt ac sydd allan ar label Recordiau Libertino.
Mae’r ddau drac yn dod o’u halbwm arbennig ‘Dos Bebés’ sydd wedi’i gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023.
Rogue Jones ydy’r band amgen sy’n cael eu harwain gan y pâr priod Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan. Maent yn adnabyddus am fod ychydig yn wahanol, ac unwaith eto mae hanes cyfansoddi’r trac ‘Babette’ yn un fach ddifyr.
“Daeth yr alaw a’r geiriau i Bethan mewn breuddwyd un noson, yn ystod cyfnod lle adawodd ddyfais recordio wrth ymyl ei gwely i ddal unrhyw freuddwydion neu frawddegau gyda’r nos” eglura Ynyr.
“Mae’r gân / breuddwyd wedi’i hysbrydoli gan y ffilm ‘Babette’s Feast’ a enillodd Oscar. Yn y fersiwn yma, mae Babette yn cynnal parti ond mae pobl yn meddwl mai ei hangladd hi yw hi.
“Dydyn ni ddim ar y blaned hon am byth, ac weithiau mae angen rhywbeth i’n deffro ac i wneud iddym werthfawrogi beth sydd o’n cwmpas ni. Mae’r gân yn ein hatgoffa ni i fyw ein bywydau i’r eithaf, gyda dewrder a phositifrwydd.”
Er gweathaf dyfeisgarwch Rogue Jones, maen nhw’n datgelu eu bod wedi troi at gyfaill cerddorol i helpu gyda chyfansoddi ‘Lemonade’.
“Cyfansoddwyd prif ran y gân hon gyda’r athrylith Eilir Pierce dros botel o Prosecco mewn gŵyl gerddoriaeth yng Nghaerdydd rhai blynyddoedd yn ôl.
“Felly pan ddaeth yr amser i’w recordio, gofynnom i Eilir ychwanegu ei lafarganu unigryw arni. Dyma’n un o’n huchafbwyntiau ni oddi ar y record. I’w chlywed ar y gân hefyd mae Elen Ifan ar y sielo, Mari Morgan ar y ffidil, Ioan Hefin ar y trwmped, Harri Rees ar y clarinét a Frank Naughton ar offeryn chwythbren a wnaeth ei alw’n ‘Maui Xaphoon’.”
Mae ‘Babette’ a ‘Lemonade’ allan ar y llwyfannau digidol arferol nawr, ynghyd â fersiwn Gymraeg o ‘Lemonade’.
Dyma fideo ‘Babette’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Rogue Jones: