Datgelwyd wythnos diwethaf mai’r grŵp electronig o Aberystwyth, Roughion ydy’r diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’.
Ers rhyw wyth blynedd bellach, ar ddyddiad Dydd Gŵyl Dewi, mae John a Kevs, aelodau’r grŵp dub / electroneg / rap, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, ac ar 1 Mawrth fe gyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai’r ddeuawd electro, Gwion James a Steffan Woodruff, oedd yr enillwyr eleni.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Hap a Damwain (2022), Adwaith (2020), Serol Serol(2019), Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Er mai yn Aberystwyth y ffurfiodd Roughion yn wreiddiol, mae’r ddeuawd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn ogystal â chreu cerddoriaeth eu hunain, maent yn gyfarwydd am gyd-weithio gydag artistiaid eraill sy’n cynnwys Mali Hâf a Mr Phormula yn ddiweddar, ac ail-gymysgu traciau.
Mae Roughion hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd yng Nghaerdydd, a hefyd yn rhedeg y label recordiau, Afanc.