SACHASKY – prosiect newydd skylrk. a Sachasom

Mae dau o gerddorion ifanc mwyaf arbrofol a diddorol y sin Gymraeg ar hyn o bryd wedi dod ynghyd i ffurfio prosiect cerddorol newydd dan yr enw SACHASKY. 

SACHASKY ydy partneriaeth newydd yr artist hip-hop o Ddyffryn Nantlle, skylrk., sef Hedydd Ioan, a’r cerddor a chynhyrchydd amgen ac arbrofol  o Fachynlleth, Sachasom, sef Izak Zjalič.

Maent newydd ryddhau sengl gyntaf y prosiect newydd  ar label INOIS ac mae hwn ar gael ar y llwyfannau digidol arferol. 

‘Ru’n Fath’ ydy enw’r trac cyntaf i ymddangos gan y ddau ac mae’n cyfuno ei synau arbrofol ac unigryw i greu byd newydd. Mae’r sengl yn cael ei ryddhau wythnos cyn i skylrk. hedelinio Clwb Ifor Bach gyda Sachasom yn ei gefnogi. 

Dwy flynedd o gydweithio

Mae skylrk. a Sachasom wedi dod i amlygrwydd yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r ddau ohonynt wedi ennill cystadlaeth ‘Brwydr y Bandiau’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Er hynny, y sengl yma ydy’r trac cyntaf swyddogol ar y cyd gan y ddau artist wedi bron i ddwy flynedd o gydweithio mewn amryw ffyrdd. Mae’r ddau’n perfformio’n fyw efo’i gilydd, gyda Sachasom yn rhan o fand skylrk., ac fe gafodd skylrk. ei gynnwys ar drac arbennig ar dâp ecsgliwsif o albwm cyntaf Sachasom ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!. 

Yn gynharach eleni roedd y ddau hefyd yn rhan o brosiect SbardunHigh Grade Grooves wrth gydweithio gyda’r cynhyrchydd Shamoniks i greu’r trac ‘Niwed’.

Drwy’r holl gydweithio yma, ac wedi ei ysbrydoli gan y traddodiad o gynhyrchwyr a rapwyr yn dod at ei gilydd ar brosiectau, penderfynodd y ddau i ffurfio SACHASKY. 

Wedi sesiynau recordio yn ystod mis Hydref llynedd fe gafodd y fersiwn cyntaf o’r ‘R’un Fath’ ei recordio.

“Wrth weithio ar gerddoriaeth SACHASKY, y prif beth mae fi ac Izak wedi bod yn drafod ydi’r syniad o allu cael hwyl wrth greu cerddoriaeth, ac hefyd mwynhau’r broses” meddai Hedydd Ioan.  

“Odda ni’n teimlo weithia ein bod ni’n gallu poeni gormod am ein cerddoriaeth i’r pwynt lle mae’r mwynhad yna’n mynd. Felly yr unig ffocws efo’r gerddoriaeth yma oedd bod yn rhydd.”

Tyfu

Mae gweithio ar gerddoriaeth SACHASKY wedi cynnig golwg newydd ar gerddoriaeth i’r ddau ohonynt, gyda Hedydd yn ceisio cynhyrchu mwy ac Izak yn cychwyn rapio. Ar y trac yma fe glywn Sachasom yn rapio am y tro cyntaf, nid yn unig yn dangos ei sgiliau cerddorol, ond hefyd ei sgiliau ysgrifennu.

“Mae’r track yn sôn am actually gallu tyfu fel person” eglura Izak. 

“Ella bod ni methu bod yn berffaith, ond da ni yn gallu newid. Dwi’n meddwl odd hwna’n wbath mawr i ni, trio gneud music odd efo outlook fwy positive yn lle lyrics tywyll. Y term odd Hedydd a fi’n sôn am lot wrth recordio oedd bod o’n teimlo fel ‘victory lap’ a gallu dathlu dy fod ti bob tro’n datblygu.”

Mae’r sengl yn rhagair i wythnos brysur iawn i’r ddau yn y brifddinas, gyda SACHASKY yn perfformio set ambient yn Shift ar yr 20 Mai ac yna noson arbennig yn Clwb Ifor Bach ar y 26 Mai wrth i skylrk. hedleinio noson gyda Sachasom ac Alaw, cynhyrchydd arall amryddawn o dan INOIS. 

Er bod y ddau yn gweithio’n dda yn y stiwdio, maent ill dau wedi gwneud eu marc yn bennaf hyd yma gyda perfformiadau byw trawiadol a chofiadwy.  

Mae fideo wedi’i greu i gyd-fynd a’r gân ac wedi’i gyfarwyddo a’i saethu gan Ffion Mai, artist a chyfarwyddwr sydd wedi cydweithio’n helaeth efo teulu INOIS eleni. Mae Ffion wedi cyd-gyfarwyddo a saethu fideos i Maes Parcio, Tesni Hughes ac wedi gweithio ar bennod Curadur skylrk. 

Bydd y fideo yn cael ei ryddhau yr un noson a perfformiad arbennig skylrk. yn Clwb Ifor Bach ar y 26 Mai.