Mae’r rapiwr Sage Todz wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf dan yr enw ‘DEG i DEG’.
Daeth Todz i amlygrwydd yn y gwanwyn llynedd gyda’i drac arddull drill ‘Rownd a Rownd’, cyn cyd-weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ryddhau’r sengl ‘O Hyd’ ym mis Mehefin.
Wrth ryddhau’r sengl ddiweddaraf mae hefyd wedi cyhoeddi fideo ar-lein sydd wedi’i gynhyrchu gan Jack Wyn White a’i gyfarwyddo gan Deedy Media.