Wrth ryddhau eu sengl ddiweddaraf, mae’r band gwych a gwallgof, Melin Melyn, hefyd wedi cyhoeddi manylion eu taith hydref.
Rhyddhawyd ‘I Paint Dogs’ ar ddydd Mercher 6 Medi ac roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl newydd ar BBC Radio 6 Music y prynhawn hwnnw.
Mae’r trac wedi’i ryddhau ar label Blomonj Record.
Cyhoeddwyd y byddai’r band hefyd yn cynnal cyfres o gigs yn ystod mis Hydref eleni gan ddechrau gydag ymddangosiad yn y Yellow Arch yn Sheffield ar 13 Hydref.
Bydd y daith wedyn yn ymlwed â deg o leoliadau i gyd a rheiny yn Middlesborugh, Lerpwl, Tunbridge Wells, Brighton, Llundain, Caerdydd a Bryste cyn cloi gyda gig yn Gulliver’s ym Manceinion ar 29 Hydref. Bydd y gyfres hefyd yn cynnwys taith fach dros y môr i berffoormio yn y Left Of The Dial Festival yn Rotterdam.
Dim ond un perfformiad fydd yng Nghymru, a hwnnw yn y Globe, Caerdydd ar 26 Hydref. Mae tocynnau’r gig hwn eisoes wedi gwerthu allan.
Mae tocynnau gweddill gigs y daith ar werth nawr.