Sengl ac aelodau newydd Cwtsh

Mae’r band Cwtsh wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 29 Medi. 

‘Hawl’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y band a ffurfiwyd gan dri cerddor profiadol iawn yn ystod 2020. 

Aelodau craidd Cwtsh ydy Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; a Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol. Y trydydd aelod nes hyn oedd y drymiwr Betsan Evans, ond mae’r band wedi datgelu ei bod bellach wedi gadael, ac aelodau newydd wedi ymuno. 

Daw’r sengl ddiweddaraf fel dilyniant i albwm cyntaf Cwtsh, ‘Gyda’n Gilydd’, a ryddhawyd yn ddigidol yn Chwefror 2021, cyn dilyn ar ffurf CD ddechrau 2022. 

‘Hawl’ ydy’r sengl ddiweddaraf oddi ar ail albwm Cwtsh fydd yn cael ei ryddhau fis Chwefror nesaf yn ôl y band. Rhyddhawyd y blas cyntaf o’r albwm newydd ar ffurf y sengl  ‘Ar Ben y Byd’ ym mis Tachwedd 2022, cyn i’r trac ‘Ti a Fi’ ddilyn ym mis Gorffennaf eleni – cân sydd â theimlad seicadelig a swrreal iddi. 

“Gyda ‘Hawl’, fe wnaeth Sion yrru’r gerddoriaeth i mi a daeth y syniad yma o rhywun yn gorfod amddiffyn ei hun rhag mynegiadau beirniadol rhywun arall” meddai Alys am y trac newydd. 

Y newyddion pellach o gyfeiriad Cwtsh ydy bod peth newid wedi bod i aelodaeth y band. Drymiwr gwreiddiol Cwtsh oedd Betsan Haf Evans, sydd hefyd yn aelod o’r band rockabilly, Pwdin Reis. Bellach mae Betsan wedi gadael Cwtsh gydag aelodau newydd yn ymuno i ehangu sŵn y band. 

Mae’r lein-up newydd yn cynnwys, Alun Owens (bas), sydd wedi bod mewn ambell i fand gyda Sion Lewis yn y gorffennol; Huw Evans (bas/drymiau), Cadi Thomas ( gynt o’r band Cadno) ar yr allweddellau, a Mic Relf ar y drymiau). Mae Ifan Prys o’r Cledrau hefyd yn chwarae gyda Cwtsh yn achlysurol ar y bas a cajon.