Sengl ac albwm ar y ffordd gan Pwdin Reis 

Mae’r band rockabilly o’r Gorllewin, Pwdin Reis, wedi rhyddhau eu sengl newydd wrth iddynt baratoi i ryddhau albwm hefyd.  

Dawnsio Dangeris’ ydy enw’r trac diweddaraf fydd yn cael ei ryddhau ganddynt ar label Recordiau Reis ac mae’n flas o albwm newydd y band, ‘Noson Arall Mewn’ fydd yn dilyn ym mis Medi. 

Pwdin Reis ydy band y cerddorion profiadol Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).

Maent wedi bod yn brysur dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan ryddhau cyfres o sengl, yngyd â’r albwm ‘Neis Fel Pwdin Reis’ a ryddhawyd ym Medi 2021.

Mae’r sengl newydd yn disgrifio’r wefr drydanol sydd yn digwydd mewn perthynas newydd. Teimladau angerddol, bythgofiadwy. Geiriau am ddawnsio dangeris mewn arddull cerddoriaeth rockabilly, gyda Pwdin Reis yn rhoi sbin nhw’i hunain ar y genre heintus.

Bydd albwm newydd Pwdin Reis, ‘Noson Arall Mewn’, yn cael ei ryddhau ar 8 Medi ac mae’r band yn bwriadu chwarae cyfres o gigs ar ddiwedd y flwyddyn i hyrwyddo’r albwm.