‘Fatherly Guidance’ yw’r bedwaredd sengl oddi ar ‘Fifteen Years’, albwm newydd Al Lewis fydd allan ar 12 Ionawr 2024, ac mae’n dilyn ‘The Farmhouse’, gafodd ei henwebu ar gyfer Cân Werin Saesneg y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023, yn ogystal â’i senglau diweddar, ‘Feels Like Healing’ a ‘Never Be Forgotten’.
Mae’r gân yn dilyn themâu tebyg i’w bodlediad newydd ‘Feels like Healing’ lle mae Al yn sgwrsio yn agored am alar a cholled.
“Gan fod fy rhieni wedi ysgaru pan oeddwn i’n ifanc, a minnau’n byw gyda mam, dim ond ar y penwythnosau y byddwn i’n gweld fy nhad” eglura Al.
“Oherwydd hynny, bob tro roedden ni gyda’n gilydd, roedden ni wastad yn trio neud rhywbeth arbennig.
“Ond nawr, rydw i wedi dod i ddeall fod treulio amser gyda’r rheiny rydym yn ei garu yn ddigon, dyna sy’n bwysig. Mae’n gyngor da i mi fel rhiant nawr – sef bod yn bresennol yw’r peth pwysicaf.”
Dyma fideo swyddogol y sengl: