Sengl CELAVI ar y ffordd

Mae’r band metal o Fangor, CELAVI, yn rhyddhau eu sengl gyntaf yn yr iaith Gymraeg i nodi Dydd Miwsig Cymru eleni ar 10 Chwefror.

‘Dyma Fi’ ydy enw’r  trac newydd gan y ddeuawd ac yn ôl y band maen nhw’n gyffrous i ddod â cherddoriaeth metal iaith Gymraeg i’r sin.

Mae ‘Dyma Fi’ yn ddathliad o fod yn dy hun, ac yn annog hunanfynegiant, heb ots am yr hyn mae pobl yn ei ddweud – neges sy’n agos iawn i galon CELAVI. 

Y newyddion pellach ydy fod CELAVI ar hyn o bryd yn gweithio ar eu EP newydd gyda’r cynhyrchydd roc a metal amlwg, Romesh Dodangoda, sydd wedi gweithio gyda bandiau fel Motörhead, Bullet for My Valentine a Nova Twins yn y gorffennol.