Sengl ddiweddaraf Tapestri – albwm cyntaf allan fis Mawrth

Bydd deuawd Tapestri, sef Lowri Evans a Sara Zyborska, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar ddydd Gwener 27 Ionawr. 

‘Waiting in the Background’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan Tapestri, ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau albwm cyntaf y band fydd allan yn fuan. 

Daw ‘Waiting in the Background’ yn dilyn cyfres o senglau gan y ddwy ers iddynt ffurfio’r prosiect newydd dair blynedd nôl yn Ionawr 2020.   

Fel pob band arall, mae’r pandemig wedi effeithio tipyn ar eu cynlluniau, ond wrth ryddhau’r sengl newydd maent wedi cyhoeddi bydd eu halbwm cyntaf yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Tell me World’ ar 24 Mawrth. 

Mae Sarah a Lowri yn arbennig o gyfarwydd i gynulleidfaoedd cerddoriaeth Gymraeg fel cantorion-gyfansoddwyr dwyieithog sydd wedi bod yn perfformio fel artistiaid unigol ers peth amser.

Ar ôl i’r ddwy cyfarfod am y tro cyntaf tra’n perfformio yng Ngŵyl Geltaidd Lorient yn 2019, fe’u hysbrydolwyd i ffurfio band a sefydlu eu brand eu hunain o Werin/Roots/Americana, oll wedi’u blethu â’i gilydd trwy eu harddull gerddorol dwymgalon. 

Fe gysylltodd eu lleisiau ar unwaith a datblygodd eu sain harmonïol, gan arwain at gymhariaethau eu bod fel deuawd dwy chwaer.

Er eu bod yn byw ar ddau begwn gwahanol o Gymru, parhaodd eu partneriaeth dros y pandemig ar ffurf tair sengl, sef fersiynau Cymraeg a Saesneg o ‘Open Flame / Y Fflam’, ‘Save your Love / Arbed Dy Gariad’ a ‘Sweet Memories / Atgofion’ a ymddangosodd ar restrau chwarae BBC Radio Wales a Radio Wales.

Buont yn perfformio yn Focus Wales, Gŵyl Between the Trees a chynrychioli Cymru yn y Global Music Match cyntaf erioed. Yn Haf 2022 bu iddynt berfformio ar brif lwyfan Gŵyl Werin Caergrawnt ar ôl chwarae dim ond llond llaw o gigs gyda’i gilydd. Roedd eu EP yn un o’r recordiau â werthodd fwyaf yn yr ŵyl ac wedi hynny buont yn chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Lleisiau Eraill, Gŵyl Cwtch a gwerthu pob tocyn ar gyfer dwy sioe yn eu trefi genedigol yn yr Hydref.

Ysbrydolwyd ‘Waiting in the Background’ gan y band Americanaidd The Highwomen a’u cân ‘Redesigning Women’. 

“Mae ein cân yn symud drwy’r oesoedd, o fod yn wraig tŷ o’r 1950au, yn fenyw gyrfa yn yr 1980au, i heddiw a sut rydym yn cynrychioli ein hunain, gan greu llwybr i’n hunain mewn cerddoriaeth a bywyd.”