Mae’r Welsh Whisperer wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n mynd i’r afael â phwnc llosg sydd wedi hollti barn yng nghymunedau Cymru yn ddiweddar.
‘Only Doing 20’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar ei label ei hun, Recordiau Hambon.
Does dim pwnc trafod mwy yng Nghymru dros y cyfnod diweddar na’r polisi terfyn cyflymder gyrru 20mya sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw’n syndod felly bod Welsh Whisperer eisiau sylwebu ar y peth yn ei ddull cerddorol tafod ym moch!
Dyma gân sy’n taflu golau ar feddylfryd rhai gyrwyr sydd â barn digon cryf am y cyfyngiad cyflymder dadleuol yma.
“Mae’n rhyfedd sut mae rhai pethau yn dal sylw cymaint o bobl mewn amser mor fyr, a dwi wedi cael hwyl yn darllen a gwrando ar nifer fawr o sylwadau bach digon diddorol a doniol wrth gyfansoddi’r gân” eglura Welsh Whisperer.
“Rwy’n hyderus na fydd neb yn cymryd y gân o ddifri…dim gormod beth bynnag!”
Wrth ryddhau’r sengl yn ddigidol ar ddydd Gwener 13 Hydref, mae Welsh Whisperer hefyd wedi cyhoeddi ei fod wrthi’n recordio nifer o ganeuon newydd sbon eraill ar hyn o bryd.