Sengl ddwbl Tara cyn gigio yn Indonesia

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 3 Tachwedd. 

 ‘I Do / Wyt Ti?’ ydy enw’r traciau newydd sydd wedi eu rhyddhau ar label Recordiau Côsh gan y gantores-gyfansoddwraig amryddawn. 

Mae’r sengl yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r trac arallfydol ddaeth allan yn wreiddiol ar albwm hunan-deitledig Tara a ryddhawyd yn gynharach eleni. Mae hefyd yn cynnwys y delynores fyd-enwog Catrin Finch ar y delyn electro.

Mae ‘I Do / Wyt Ti?’ yn dathlu camp enfawr Tara Bandito o gael ei gwahodd i berfformio yng ngŵyl gerddoriaeth LUCfest yn Indonesia ar y 5 Tachwedd. Ar gefn haf llwyddiannus yn chwarae gwyliau ledled Cymru, mae sain electro indi dwyieithog unigryw Bandito bellach yn barod i swyno ffans cerddoriaeth dramor.

Mae’r fersiynau Cymraeg a Saesneg yn caniatáu i wrandawyr ym mhobman gael eu cyffwrdd gan eiriau ac alawon twymgalon yr artist. Peidiwch â cholli’r sengl ddwbl yma, sy’n arddangos un o dalentau mwyaf cyffrous Cymru cyn iddi fynd ar lwyfan y byd yn Indonesia.