Mae’r grŵp o’r gogledd, Dienw, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 27 Hydref.
‘Emma’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt sydd allan ar label Recordiau I KA CHING, ac sy’n rhagflas o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar eu halbwm fydd yn dilyn yn fuan.
Dienw ydy’r band dau aelod o Arfon sef Twm Herd (llais a gitâr) ac Osian Land (dryms).
Maen nhw wedi rhyddhau cyfres o senglau gydag I KA CHING ers ffurfio fel rhan o brosiect Marathon Roc yn 2017, gan greu argraff mewn gigs byw hefyd.
‘Emma’ fydd y sengl olaf gan y band cyn iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf ar 17 Tachwedd.
Mae’r gân wedi’i ysbrydoli gan sain gitâr-pop y 60au, yn benodol cyfnod ‘Rubber Soul’ The Beatles, a hefyd stwff ysgafnach The Last Shadow Puppets, gyda Twm ac Osian yn rhannu’r dyletswydd canu ar y gytgan, yn debyg i Alex Turner a Miles Kane o’r grŵp hwnnw.
“Mae’r gân am fod yn ansicr mewn perthynas, er dydi Emma ddim wir yn bodoli” eglura’r band.
“Mae hon bendant yn un o’n ffefrynnau i chwarae’n fyw. Roedd hi’n braf gallu esblygu’r trac yn y stiwdio a’i thrawsnewid o fod yn demo gitâr acwstig a llais yn unig, i fod yn un o’n huchafbwyntiau o’r albwm gyda’r middle 8 euphoric.”
Bydd cyfle i weld Dienw’n perfformio’n fyw mewn gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, ar ddyddiad rhyddhau’r albwm, 17 Tachwedd.
Dyma ‘Emma’: