‘Catdisco Remix’ yw’r cynnig diweddaraf gan yr artist electroneg newydd, M-digidol.
Cafodd sengl gynta’r artist, ‘Un Dau Tri Pedwar’, ei ryddhau yn ôl ym mis Medi ar label HOSC.
M-digidol ydy prosiect electronig Rhun Gwilym. Wrth iddo weithio ar gerddoriaeth newydd gan arbrofi efo synau newydd, dyma’i fersiwn o gân a ryddhawyd yn wreiddiol gan Crash.Disco! – cân a ddylanwadodd ar Rhun pan oedd yn ifanc.