Sengl fel blas o record fer newydd Mali Hâf

Bydd Mali Hâf yn rhyddhau ei EP newydd ar 3 Tachwedd, ac mae wedi rhyddhau sengl fel tamaid i aros pryd.

‘Jig-so’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan drwy Recordiau Côsh.

Er mwyn rhoi blas o’r casgliad newydd mae wedi rhyddhau un o’r traciau, ‘Boudicca’ fel sengl ers dydd Gwener diwethaf 27 Hydref.

Mae Mali’n credu bod yr EP hwn yn ei gweld hi’n cymryd camau mawr ymlaen gyda’i pherfformiad, trefniant cerddorol a’i delwedd fel artist, yn bennaf oherwydd ei bod yn barod i arbrofi a mentro. Dyna pam roedd hi’n meddwl bod galw ei EP yn ‘Jig-so’ yn gwneud synnwyr.

Mae’n drosiad ar gyfer dod o hyd i’r darnau i greu celf a cherddoriaeth llwyddiannus ac yn ehangach y darnau a’r dewisiadau sy’n arwain at fywyd cyflawn i fenyw ifanc yn y Gymru gyfoes.

Mae hi hefyd yn hoffi sut mae’r teitl yn cynnwys y gair ‘Jig’, sef dawns Geltaidd. Mae’r EP yn cynnwys cerddoriaeth sy’n cael ei ganu mewn iaith Geltaidd a fydd yn gwneud i chi fod eisiau dawnsio, bron fel jig modern.

Gyda’r EP yma, roedd Mali’n anelu at gyfuno alawon gwerinol eu naws, iaith farddonol (weithie!) gyda synau difyr pop electronig modern.

Y Frenhines Geltaidd

Mae’r sengl ‘Boudicca’ yn cyfeirio at y Frenhines Celtaidd enwog honno, sydd hefyd yn adnabyddus i ni y Cymry fel Buddug. Mae Mali yn mwynhau ffantasïo am fywyd bryd hynny pan mai Brythoneg oedd iaith yr ynys gyfan.

Roedd Minas, y cynhyrchydd, a Mali yn hoff iawn o’r dewis o gordiau i ddarlunio’r tirweddau gaeafol ym Mhrydain lle byddai Boudicca yn marchogaeth ei cheffylau a’i cherbyd. Ac er iddi gael ei threchu yn y pen draw mae‘r stori’n ymwneud â gwrthsefyll pŵer ac anghyfiawnder.

Mae’r curiadau rhythmig, y synau a’r bachau fel llafarganu yn awgrymu teimladau brwydrol. Ond mae’r geiriau yn annog sefyll dros werthoedd cymunedol a diwylliannol, cefnogi tegwch a rhoi cyfle i bobl ifanc gyfrannu at eu cymunedau – rhywbeth sy’n cael ei wneud yn anodd gan bod llawer o eiddo yng nghefn gwlad Cymru yn cael eu brynu gan unigolion neu busnesau cyfoethog fel ail neu hyd yn oed drydydd cartrefi.

Mae fideo hefyd wedi’i gynhyrchu gan Trigger Happy i gyd-fynd â’r sengl.

Dyma’r fid: