Sengl gyntaf Cari Hedd

Mae’r gantores ifanc o Sir Fôn, Cari Hedd, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 24 Chwefror. 

‘Mae’r Amser Di Dod’ ydy enw’r trac sydd allan ar label Recordiau Gonk. 

Ysgrifennwyd y trac gan y cerddorion profiadol Geth Tomos a Geth Robyns – dau sy’n gyfarwydd â chydweithio gyda’i gilydd ar ôl cael tipyn o lwyddiant gyda’r trac ‘Cana dy Gân’ a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2022. 

Mae enw cyfarwydd arall hefyd wedi bod yn gyfrifol am waith cynhyrchu, cyfansoddi a threfniant y sengl sef Henry Priestman, cyn aelod y band llwyddiannus The Christians. 

Prif neges y gân ydy edrych i’r dyfodol gan obeithio y daw pethau yn well, boed hynny i ni fel unigolion, neu i ni fel cenedl.

“Mae gweithio efo Geth a Henry wedi bod yn bleser, ac yn brofiad sbeshal cael gwireddu fy uchelgais o gael rhyddhau sengl” meddai Cari wrth ryddhau ei sengl gyntaf.

Mae’r sengl ar gael yn ddigidol yn yr holl fannau arferol.