Mae artist cerddorol newydd o Abertawe wedi rhyddhau ei sengl gyntaf.
‘Gofyn Wyf’ ydy enw’r trac cyntaf i ymddangos gan Leigh Alexandra, ac mae allan ar ei label recordiau ei hun, sef Label Lexa.
Mae’r gân wedi’i ysbrydoli gan guriadau dawns ddiwydiannol a cherddoriaeth electroneg ac yn plethu llais clasurol Leigh yn berffaith.
Yn dilyn taith lwyddiannus o gwmpas theatrau Cymru gyda chwmni theatr Arad Goch yn gynharach yn y flwyddyn, aeth Leigh ymlaen i weithio gyda National Theatre Wales ar ‘Treantur’ dros yr Haf a thra iddi fod draw yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cafodd ei ysbrydoli’n llwyr.
“Wrth imi wylio Sage Todz, Lloyd, Dom James a Dontheprod yn perfformio, cymerodd y curiadau afael yn fy nghalon” eglura Leigh.
“Roedd dril Sage yn syfrdanol, ac wrth imi ddawnsio, daeth y melodi i eiriau un o fy hoff ganeuon traddodiadol Cymraeg.”
Ddyddiau yn ddiweddarach, ymunodd Leigh ag Eädyth ar lwyfan yn ystod ei set ym Maes B.
“Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle honno, roedd hi’n fraint gallu canu gydag Eädyth yn ei set DJ” meddai Leigh.
“Dwi wedi bod yn breuddwydio am y foment honno ers erioed!”
Wedi’i ysgrifennu ar y trên rhwng Pwllheli a Chaerdydd, a’i gynhyrchu gan y cynhyrchydd Donald Phythian, mae ‘Gofyn Wyf’ yn archwilio purdeb creadigrwydd ac iaith.
Gyda geiriau wedi’i benthyg o’r chwedlonol ‘Calon Lân’, yma mae Leigh Alexandra yn dangos y gall gwahanol genres a synau cerddorol ddod at ei gilydd i greu rhywbeth o’r newydd.