Sengl gyntaf Siula

Mae’r prosiect cerddorol newydd o’r enw Siula wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf. 

‘Golau Gwir’ ac ‘Ischia’ ydy enw’r traciau sydd wedi cael eu rhyddhau fel sengl ddwbl ar label Recordiau Libertino. 

Siula ydy’r prosiect pop-sinematig newydd gan Llion Robertson, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r band Cotton Wolf, ac Iqra Malik sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Artshawty. 

Yn ôl eu label mae caneuon Siula yn draciau sain breuddwydiol i ffilm noir fodern.

Mae electro pop perffaith ‘Golau Gwir / Ischia’, sengl gyntaf Siula, yn cyflwyno band sy’n barod i ddangos eu helfen fregus, tra bod y rhythm yn siŵr o lusgo’ch holl ofidion i ffwrdd hefyd. 

“Mae’n rhaid i bob trac ddal emosiwn” eglura Llion.  

“Mae’n rhaid iddo’ch cydio a’ch tynnu i mewn. Mae gen i obsesiwn gyda cherddoriaeth electronig ryfedd ond hefyd gyda phop perffaith ac mae Siula yn ymgais i gyfuno’r ddau beth. 

“Fe wnaethon ni drio creu sain emosiynol, sain sy’n cysylltu sy’n eich gwneud fod eisiau dawnsio.”

Dyma fideo ar gyfer ‘Golau Gwir’ a gynhyrchwyd ar gyfer rhaglen Curadur yn gynharach yn y flwyddyn:

(llun: Kirsten McTernan)