Sengl HMS Morris ar y ffordd

Mae HMS Morris wedi cyhoeddi bydd sengl ddiweddaraf y band yn glanio ar 7 Ebrill.

‘Family Souls’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Bubblewrap.

Roedd cyfle cyntaf i glywed y gân ar raglen y cyflwynydd Adam Walton ar BBC Radio Wales nos Sadwrn.

Mae’r grŵp hefyd wedi dechrau ar eu taith gwanwyn gyda gig yn Llanrwst nos Wener diwethaf.

Byddan nhw’n chwarae mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru dros y tair wythnos nesaf gan gynnwys Blaenau Ffestiniog, Caerfyrddin, Crymych, Aberteifi, Bryngwran, Pontypridd a’r gig olaf yn Aberystwyth ar 17 Ebrill.