Wrth i’r band o Gaerdydd, Hyll, gyhoeddi y byddant yn rhyddhau eu halbwm cyntaf yn fuan, maent hefyd wedi rhyddhau sengl newydd fel tamaid i aros pryd.
‘Hanner Marathon’ ydy enw’r trac newydd gan y band sydd allan yn swyddogol ers 23 Mehefin ar label JigCal.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn flas arall o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar albwm y band, Sŵn o’r Stafell Arall, fydd yn cael ei ryddhau ar 28 Gorffennaf.
A hwythau wedi rhyddhau cyfres o EPs a senglau poblogaidd, bydd y newyddion am yr albwm wrth fodd ffans Hyll.
Ar ôl treulio’r blynyddoedd diwethaf yn cwblhau ‘side quests’ cerddorol, yn mentro mewn i fyd synth pop, gwerin, a hyd yn oed cân Nadolig, mae Hyll yn dychwelyd i’w gwreiddiau roc a rôl efo’u sengl newydd ‘Hanner Marathon’.
Mae’r gân yn adrodd hynt a helynt bywydau cymdeithasol y band ac yn nodweddiadol o sŵn yr albwm sydd i ddilyn.
Mae ’na fideo ar gyfer y sengl newydd allan gan y band hefyd.
Bydd y band yn cynnal gig lansio ar gyfer yr albwm yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 28 Gorffennaf.