Mae Bwca wedi cyhoeddi manylion eu hail albwm, ‘Hafod’, gan hefyd ryddhau’r teitl-drac ar Recordiau Hambon.
Bwca ydy’r band o ardal Aberystwyth sy’n cael eu harwain gan y cerddor Steff Rees. Rhyddhawyd eu halbwm hunan-deitlog cyntaf ym mis Tachwedd 2020.
Mae sengl agoriadol albwm newydd Bwca yn adeiladu ar sengl ddiwethaf y band, ‘Pam Dylen Ni Ddim’, oedd yn gân roc amgen Cure-aidd gyda sain sacsoffon Hannah McCarthy yn gweld Steff Rees yn dweud ‘whey aye man’ i’w gyd-gefnogwr Newcastle United Sam Fender.
Yn cynnwys Steff Rees ar y gitârs a’r prif lais, Hannah McCarthy ar y sacs a’r llais cefndirol, Iwan Hughes ar y drymiau a Peter Evans ar y bas, mae’r sengl ‘Hafod’ wedi ei dylanwadu arni gan anturiaethau Steff ar droed ac ar ddwy olwyn i rai o berlau llai cyfarwydd Yr Elenydd megis Stad yr Hafod yng Nghwmystwyth.
Gosod y thema
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar CD ddydd Gwener yma, 16 Mehefin ac mae’r trac-deitl yn gosod y thema ar gyfer gweddill y casgliad – dianc mewn i natur a mwynhau pleserau syml bywyd.
Wedi ei ysgrifennu ar y cyd â’r bardd o Dalybont, Phil Davies, mae’r caneuon yn ein tywys yn esmwyth o unigeddau anghysbell y Topie i arfordir braf Llydaw.
Yn gerddorol, dyma albwm i’r haf gyda sain cyrn y carnifal, rhythmau egsotig ac alawon bachog trwyddi draw.
Fel dangosodd yr albwm cyntaf, mae gan Bwca y gallu i fflyrtio gydag ystod eang o genres ac mae ‘Hafod’ unwaith eto yn gwneud hyn gyda fflachiadau o roc y 70au, soul, tropicalia, gospel, Americana a llawer mwy mewn un coctel enigmatig o llyfn ac apelgar.
Fe fydd lansiad swyddogol yr albwm, a gafodd ei recordio yn stiwdio unigryw y cynhyrchydd Americanaidd hynod o wybodus Mike West yn Y Borth, yn digwydd yn nhafarn Y Llew Gwyn, Talybont ar 23 Mehefin fel rhan o nosweithiau enwog ‘Sesiwn Nos Wener’ Talybont.
Dyma’r sengl ‘Hafod’: