Sengl i ddathlu 10 mlynedd Y Cledrau

Mae sengl ddiweddaraf Y Cledrau allan ar label Recordiau I KA CHING wrth i’r band nodi carreg filltir bwysig iddyt. 

‘Fel Hyn Fel Arfer’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y band o ardal Y Bala, ac mae’r sengl yn un arwyddocaol wrth iddynt ddathlu deng mlynedd ers ffurfiol. 

Y Cledrau ydy Joseff Owen (gitâr a llais), Marged Gwenllian (bâs), Ifan Prys (gitâr) ac Alun Roberts (dryms) ac maen nhw wedi hen sefydlu eu hunain fel un o grwpiau amlycaf Cymru gan ryddhau dau albwm – ‘Peiriant Ateb’ yn 2017 a ‘Cashews Blasus’ yn 2021 – gan ennill gwobr Gwaith Celf Gorau am ‘Cashews Blasus’ ynghyd â chyrraedd y rhestr fer am y Record Hir Orau y flwyddyn honno hefyd. 

“Cyfres o fyfyrdodau am newidiadau ydi ‘Fel Hyn Fel Arfer’” eglura Joseff am y sengl newydd. 

“Gall ddod o hyd i’r balans rhwng pwysigrwydd profiadau’r gorffennol a dyfodiad anochel y dyfodol fod yn anodd, gyda’r ddau begwn mor anfoaddeuol a’i gilydd ar adegau. 

“Mae’n ddigon addas felly bod y gân wedi ei recordio yn Stiwdio Sain ddeg mlynedd wedi i ni ffurfio fel band.”

“Er bod cymaint yn gallu newid mewn degawd, mewn blwyddyn neu mewn diwrnod, mae rhai profiadau a theimladau mor sylfaenol maen nhw’n rhannau annatod ohonna ni. Dyma gân gobeithiol anobeithiol, sydd yn llawer llai digalon na mae’r disgrifiad uchod yn awgrymu.”

I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo arbennig wedi’i greu gan Lŵp, wedi’i ryddhau ar-lein ers y dyddiad rhyddhau. Cyfarwyddwyd a chynhyrchwyd hwn gan Elis Derby ac mae wedi’i ffilmio yn hen ysgol uwchradd y band, sef Ysgol y Berwyn yn y Bala.