Mae’r band gwerin Hen Fegin yn lansio sengl newydd ‘Fflam y Llan’, sy’n gân am un o Aelwydydd hynaf Cymru oedd yn dathlu 60 mlynedd yn 2022.
Sefydlwyd Aelwyd Penllys yn 1962 gan y Parch Elfed Lewys i ddod â ieuenctid ardal gogledd Maldwyn at ei gilydd i gymdeithasu a chystadlu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Chwe deg mlynedd yn diweddarach, mae’r Aelwyd yn dal i gael ei chynnal.
Roedd Côr Penllys, sy’n cynnwys aelodau a chyn aelodau’r Aelwyd yn cynnal cyngerdd ar nos Wener 13 Hydref yn Neuadd Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac roedd Hen Fegin yn perfformio’r gân ar achlysur rhyddhau’r sengl newydd.
Cyfansoddwyd geiriau ‘Fflam y Llan’ gan y bardd Arwyn Groe, sy’n gyn-aelod ei hun o Aelwyd Penllys ac yn ymwybodol o ddylanwad y Parch Elfed Lewys. Mae Arwyn hefyd yn y geiriau yn cydnabod y ‘bugeiliaid iau’ sydd wedi camu i’r adwy a dilyn ôl troed Elfed i gynnau tân diwylliannol a Chymreictod yn y fro.
Mae alaw hyfryd y Prifardd Penri Roberts, sy’n adnabyddus am ei gyfansoddiadau hynod gyda Chwmni Theatr Maldwyn, yn gweddu’n berffaith i’r geiriau.
“Bu gweledigaeth a brwdfrydedd Elfed Lewys yn amhrisiadwy, nid yn unig wrth sicrhau llwyddiant eisteddfodol yr Aelwyd ond hefyd wrth godi hyder yr aelodau a ‘thanio’r fflam’” meddai Roy Griffiths o’r band.
“Mae hynny wedi parhau dan arweiniad eraill a’i ddilynodd ac mae’r ffaith i Aelwyd Penllys fedru dathlu 60 mlynedd yn dweud y cyfan. Mae’r gân ‘Fflam y Llan’, nid yn unig yn dwyn i gof Elfed ac Aelwyd Penllys, ond hefyd aelwydydd a thannau glo mewn cartrefi ar draws Cymru, ac yn arbennig y tân glo sydd wedi croesawu aelodau o’r Aelwyd dros y blynyddoedd yn Nhafarn y Goat yn Llanfihangel.”
Ffurfiwyd Hen Fegin yn 2015, ac maent wedi bod yn adlonni cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt gyda’u sain gwerinol unigryw o Faldwyn ers hynny. Mae eu cerddoriaeth cartrefol yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, yn plethu’r traddodiadol a’r gwreiddiol.
Er mai pedwarawd o gogie Maldwyn oedd y band yn wreiddiol, mae’r grŵp bellach wedi ehangu i bump aelod gyda ychwanegiad sain hyfryd y delyn deires wrth i Cadi Glwys Davies ymuno a’r criw. Aelodau’r band yw Roy Griffiths (llais, gitâr a banjo) a Jac Gittins (llais, mandolin, pib a bodhrán) – y ddau’n adnabyddus ar y sîn werin yng Nghymru ers eu dyddiau gyda’r band Plethyn, Rhys Jones (llais, ffidil, mandolin a gitâr), Bryn Davies (llais ac acordion) – gynt o Ci Du a Phen Tennyn, a’i ferch Cadi Glwys Davies (telyn deires).
“Fel y cafwyd yn eu halbwm cyntaf, ‘Hwyl i Ti ‘Ngwas’, mae’r sengl newydd yn cynnig cyfuniad cynnes gwerinol a chanu harmoni tri llais sy’n adlewyrchiad o sain hynafol Plygeiniau Sir Drefaldwyn” meddai Branwen Williams o Recordiau Maldwyn.
“Er mai alaw a geiriau newydd sbon a geir yn ‘Fflam y Llan’, mae teimlad cartrefol draddodiadol yma sy’n siŵr o godi hiraeth am gynefin, cymuned a Chymreictod.”
Cyhoeddir y sengl gan Label Recordiau Maldwyn, a recordiwyd y trac yn Stiwdio Sain yn Llandwrog.