Mae artist newydd o’r enw Sylfaen wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ers dydd Sul 22 Hydref.
‘Canfas Gwyn’ ydy enw’r trac cyntaf i ymddangos gan Sylfaen, a hynny ar label Recordiau Côsh.
Sylfaen ydy prosiect newydd sbon y cerddor Ifan Rhys Williams, ac mae Sylfaen yn addo i fod yn blatfform gwych iddo rannu ei gerddoriaeth.
Gyda’i chwaer, sef y gantores amlwg Alys Williams, yn canu ar ‘Canfas Gwyn’, y bwriad yw cael mwy o gantorion a cherddorion i ddehongli’r caneuon mae o’n eu hysgrifennu. Mae’r sengl gyntaf yma hefyd yn cynnwys Elidyr Glyn o’r band Bwncath ar y ffidil.
Cyfansoddwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer agoriad arddangosfa ei gariad, yr artist anhygoel Lisa Eurgain Taylor, ac ers hynny cafodd y ei chwarae ym mhriodas y ddau – gyda Casi Wyn yn canu’r alaw bryd hynny.
Mae’r cwpl yn dathlu blwyddyn o briodas ar ddydd Sul 22 Hydref, felly pa ffordd well o ddathlu’r achlysur na rhyddhau’r gân yn swyddogol.
Bydd Sylfaen yn parhau i recordio a rhyddhau cerddoriaeth dros y misoedd nesaf yn ôl Côsh.