Sengl Nadolig Angharad Rhiannon

I gloi blwyddyn gofiadwy iddi, mae’r gantores Angharad Rhiannon wedi penderfynu rhyddhau sengl Nadoligaidd newydd sbon.

‘Un Nadolig’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan yr artist o Gwm Cynon.

‘Mae’r Nadolig yn gyfnod llawn emosiynau a hud ac yn sbardun i sawl cân i mi” meddai Angharad wrth drafod y sengl newydd.  

“Mae fy wncwl Stephen wedi gwneud y gwaith celf sy’n cyd-fynd â’r gân ar y platfformau digidol arferol.” 

Bu’n flwyddyn hynod o gyffrous i’r cerddor wrth iddi gipio teitl ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar nôl ym mis Chwefror gyda’i halbwm cyntaf, ‘Seren’. 

Mae Angharad wedi bod yn dilyn Gwobrau’r Selar ers blynyddoedd ac yn hybu’r holl artistiaid sy’n ennill gwobrau ar y rhaglenni radio mae’n cyflwyno ar Bro Radio a GTFM. Roedd Angharad wedi ei syfrdanu ei bod hi ar y rhestrau ei hun eleni ond wrth ei bodd pan gyhoeddwyd ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru ei bod hi wedi ennill y wobr. 

“Dwi wedi bod ar bedair rhestr fer ac mae wedi bod yn fraint cael fy enw wrth ochr yr artistiaid yma dwi’n eu hedmygu. Diolch i bawb sydd wedi pleidleisio, mae’n meddwl y byd” meddai Angharad ar y pryd trwy ddagrau llawenydd.

A hithau wedi rhyddhau’r sengl ‘Carnifal’ yn ddiweddar gyda’i chyfaill Alistair James fel dilyniant, mae’r ‘Un Nadolig’ yn cloi blwyddyn lwyddiannus iddi.