Sengl Nadolig Geth Tomos

Mae’r cerddor profiadol Geth Tomos wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd ers dydd Gwener diwethaf, 8 Rhagfyr. 

‘Bore Da! Nadolig Llawen!’ ydy enw’r trac Nadoliglaidd newydd ganddo sy’n cynnwys lleisiau hyfryd plant Ysgol Pendalar a chriw Antur Waunfawr. 

Mae’r gân wedi ei chyfansoddi gan Geth ei hun a’r cyn aelod o’r grŵp The Christians,  Henry Priestman, gyda’r geiriau wedi eu hysgrifennu gan Gethin Robyns.

Dyma’r drydedd sengl mae’r tri wedi cyd-gyfansoddi, yn dilyn ‘Mae’r Amser Di Dod’ ac ‘Os neith yfory’, a bydd hi allan ar label Recordiau Gonk. 

Nid dyma’r tro cyntaf i Geth Tomos ryddhau sengl Nadolig – bu iddo ryddhau ‘Hei Sion Corn’ yn 2021 gan gyd-weithio gyda Catrin Angharad a disgyblion a staff Canolfan Addysg y Bont yn Llangefni. 

Mae ‘Bore Da! Nadolig Llawen!’ hefyd ar gael ar ffurf offerynnol (carioci).