Sengl newydd ac albwm ar y ffordd gan Bitw

Mae Bitw wedi rhyddhau sengl newydd sy’n rhagflas o’r hyn syddi ddod ar ei albwm newydd. 

Rhyddhawyd ‘Pretender’ ddydd Gwener diwethaf, 6 Hydref ac mae fideo hefyd wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r trac. 

Wrth ryddhau ‘Pretender’, mae Bitw hefyd wedi datgelu bod albwm ar y ffordd ganddo dan yr enw ‘Rehearse’, a bydd allan ar 1 Rhagfyr ar label Klep Dim Trep. 

Bitw ydy prosiect unigol y cerddor Gruff ab Arwel sydd wedi bod yn aelod o sawl band yn gorffennol gan gynnwys Eitha’ Tal Ffranco ac Y Niwl. 

“O’n i wedi addo i’n hun na fyswn i’n recordio adra’ byth eto,” meddai Gruff  ar ôl gwneud yn union hynny trwy ddamwain. 

“Y bwriad oedd recordio’r record yma mor ‘fyw’ â phosib efo band, ond roedd hynny ym mis Mawrth 2020,” eglura. 

“Yn naturiol, felly, roedd rhaid ailfeddwl. Yn y pen draw, fe gafodd rhan fwyaf o’r albwm ‘Rehearse’ ei recordio gartref yng Nghaernarfon, gydag ambell i sesiwn mewn ystafell wag yn Galeri. Cyfrannodd hynny tuag at y teimlad y tu ôl i’r record – “Dyma fi, yn gwneud yr un peth eto ond yn disgwyl canlyniad gwahanol.”

Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i albwm cyntaf hunan-deitlog Bitw a ryddhawyd yn 2019, a theg dweud felly na chaiff unrhyw un a fwynhaodd y record honno’n cael eu siomi. 

Er na lwyddodd Gruff i fynd yr un cam ymhellach allan o’i dŷ, mae’r casgliad hwn o ganeuon pop arbrofol yn gwyro ymhellach oddi wrth y fformiwla y tro yma.

“Dwi’n mwynhau cerddoriaeth sy’n trio neud rhywbeth chydig yn wahanol i’r arfer; dyna dwi’n wrando fwyaf arno, ac am wn i mai dyna sy’n fy ysbrydoli i sgwennu cerddoriaeth hefyd” meddai Gruff.

Bu ei lyfr ffôn swmpus o gydweithwyr cerddorol yr un mor ddefnyddiol hefyd, wrth i’r record gael ei chymysgu gan Llŷr Pari, gyda thalentau Gwion Llewelyn, Stephen Black, Mari Morgan a George Amor oll i’w clywed fan hyn fan draw. 

“Roedd dod â mwy o bobl i mewn yn syniad da – dim jesd am eu perfformiadau anhygoel, ond hefyd am eu barn a’u syniadau ynglŷn â’r caneuon. Mae’n amhosib gwrando’n wrthrychol ar ôl rhyw bwynt,” ychwanega’r cerddor.

“Tydi hi ddim yn record arbennig o hapus na thrist dwi’m yn meddwl – mae ’na ddarnau ohoni’n delio efo rhai pethau hyll am fy hun na fyswn i wedi’u hwynebu fel arall o bosib. Mae ’na lot o sôn am aros, disgwyliadau…dwnim am be chwaith, ond mae ’na rywfaint o obaith yna hefyd yn bendant.”

Tra oedd record gyntaf Bitw yn gyfle i hel atgofion a hyfrydu mewn hiraeth, mae ‘Rehearse’ yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ohoni, a dim ond ar ôl gorffen y daeth hi’n glir fod hon yn record bersonol iawn i Gruff.

“O’n i braidd yn galed ar fy hun am sbel, ond mi helpodd y broses o sgwennu’r record fi i sylweddoli hynny.”

Mae’r fideo ar gyfer y sengl gyntaf o’r albwm, ‘Pretender’, ar gael i’w weld ar-lein nawr a’r sengl allan yn ddigidol ar Bandcamp Bitw.

Dyma fideo ‘Pretender’ gan Ynyr Morgan Ifan: