Mae Al Lewis wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf wrth iddo baratoi i ryddhau ei albwm newydd ym mis Ionawr.
‘Where Do I Go From Here’ ydy enw’r trac diweddaraf iddo ryddhau o’r albwm ‘Fifteen Years’ fydd allan ar 12 Ionawr 2024.
“Mae’r gân hon yn ymwneud ag edrych yn y drych, a gweld wyneb fy nhad yn edrych yn ôl arnaf a sylwi fy mod nawr yr un oed a beth dwi’n cofio fy rhieni” eglura Al.
“Pan ydych yn blentyn, mae’ch rhieni’n ymddangos fel pobl na allai byth ddeall yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo. Ond yna rydych chi’n sylweddoli, fe aethon nhw drwy bopeth rydych chi’n mynd drwyddo hefyd. Byddai fy nhad wedi cael yr un meddyliau ac ofnau am fod yn rhiant ag yr oeddwn i’n eu cael. Mae’n gân am ddymuno y gallwn ofyn iddo am gyngor a sylwi gymaint dwi’n gweld eisiau hynny.”