Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn o gyffro hyd yn hyn i Angharad Rhiannon ac i Alistair James ac mae’r ddau nawr wedi dod ynghyd i ryddhau sengl newydd gyda’i gilydd.
‘Carnifal’ ydy enw’r trac newydd gan y ddau ffrind sydd wedi gweld eu gyrfa gerddorol yn mynd o nerth i nerth ers dechrau’r flwyddyn wrth i’r ddau wireddu breuddwydion cerddorol.
Mae Angharad wedi bod yn dilyn Gwobrau’r Selar ers blynyddoedd ac yn hybu’r holl artistiaid sy’n ennill gwobrau ar ei rhaglenni radio ar Bro Radio a GTFM. Roedd Angharad wedi ei syfrdanu ei bod hi ar y rhestrau ei hun eleni ond wrth ei bodd pan gyhoeddwyd ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru ei bod hi wedi ennill y wobr Record Hir Orau am ei halbwm ‘Seren’.
“Dwi wedi bod ar bedair rhestr fer ac mae wedi bod yn fraint cael fy enw wrth ochr yr artistiaid yma dwi’n eu hedmygu. Diolch i bawb sydd wedi pleidleisio, mae’n meddwl y byd” meddai Angharad ar y pryd trwy ddagrau llawenydd.”
Daeth llwyddiant hefyd i Alistair, sy’n gerddor profiadol, lai na phythefnos ar ôl i Angharad gipio’r wobr Record Hir orau wrth iddo yntau wireddu breuddwyd ei hun trwy ennill cystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r gân ‘Patagonia’. Roedd y cerddor wedi gwirioni gyda’r canlyniad, a dyma uchafbwynt ei yrfa hyd yma meddai.
Rhan o wobr Cân i Gymru ydy’r cyfle i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ac fe gafodd Alistair lwyddiant pellach yno wrth i ‘Patagonia’ ddod yn ail yn y gystadleuaeth ‘Cân Ryngwladol’.
Dathlu llwyddiant ar y cyd
Penderfynodd y ddau bod rhyddhau cân newydd ar y cyd yn ffordd berffaith o ddathlu eu llwyddiant.
“Roedd y dathliadau yn dilyn llwyddiant ‘Patagonia’ yn teimlo fel carnifal a dyna o le ddaeth teitl y gân” meddai Alistair.
‘’Dw i ac Angharad wedi cydweithio ar sawl prosiect yn barod ond roedd hi’n teimlo’n briodol iawn i ni gydweithio ar rywbeth newydd eleni. Gobeithio bydd y gân hapus hon yn codi sawl gwên dros yr hâf.”
Mae ‘Carnifal’ yn cynnwys unawd gan Angharad ar y ffidl, sy’n golygu llawer iddi gan taw ei thad-cu wnaeth y ffidl yn arbennig iddi.
Todd Campbell sydd wedi cynhyrchu’r trac a letterfella sydd wedi dylunio’r gwaith celf ar gyfer y sengl.