Sengl newydd Dead Method 

Bydd yr artist dwy-ieithog, Dead Method, yn rhyddhau ei sengl newydd ‘Faith In Judas’ ar 21 Ebrill, drwy Future Femme Records.

Mae ‘Faith In Judas’ yn anthem bop electro sy’n delio â brad a diwedd cyfeillgarwch.

Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf ‘Future Femme’, a enwebwyd ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2022, mae Dead Method yn barod am gyfnod cyffrous newydd sy’n uno celf a cherddoriaeth.

Wedi’i chynhyrchu gan Edward Russell, mae’r trac yn cadarnhau Dead Method fel un o sêr pop fwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd.

‘Faith In Judas’ yw sengl gyntaf Future Femme Records, label recordio LHDTC+ cyntaf Cymru, sy’n gweithio gydag ac ar gyfer artistiaid LHDTC+.