Sengl newydd Eädyth

Mae’r artist neo-soul Eädyth wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwenr diwethaf, 20 Ionawr.

‘Heal Yourself’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label newydd sbon Sionci.

Label newydd dan adain Tŷ Cerdd ydy Sionci sy’n cael ei arwain gan artistiaid newydd.

“Rwy di adeiladu llawer o ddewrder, cryfder ac iachâd ohono a dyna beth rwyf i eisiau iddi ei gyfleu i wrandawyr” meddai Eädyth am y trac.