Bydd sengl newydd gan Dafydd Hedd yn cael ei rhyddhau ar y 15 Medi.
Mae’r artist gweithgar sy’n wreiddiol o Fethesda ond sy’n astudio Economeg ym Mhrifysgol Bryste ar hyn o bryd, eisoes wedi perfformio’r gân yn fyw, gan gynnwys yn Oakeleyfest, Maentwrog ar 18 Awst.
“Ysgrifennais ‘Bia Y Nos’ blwyddyn yn ôl, yng nghanol yr argyfwng sbeicio diodydd i magu hyder dioddefwyr ac anfon neges. Dylai pawb allu mwynhau noson allan heb ots pwy ydyn nhw,” meddai Dafydd.
“Roedd yr argyfwng yn ofnadwy ym Mryste, lle rwy’n fyfyriwr, felly fe wnes i drosglwyddo fy rhwystredigaeth ail-law yn uniongyrchol i’r gân hon.”