Sengl newydd Hel Clecs

Mae prosiect cydweithredol diweddaraf y cynhyrchydd, rapiwr a bitbocsiwr Cymraeg Mr Phormula wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. 

Hel Clecs ydy enw band newydd Mr Phormula, neu Ed Holden, lle mae’n cyd-weithio gyda’r rapiwr o Rhode Island, Lord Willin. 

‘Sound of Thunder’ ydy enw eu sengl newydd sydd allan ar 30 Rhagfyr ar label Bard Picasso.

Cynhyrchwyd y sengl newydd gan Ed Holden ei hun yn ei stiwdio, Stiwdio Panad, ac mae’n ddilyniant i EP diweddar Hel Clecs, ‘S.A.I.N.’ a ryddhawyd ym mis Awst 2022. 

Mae ‘Sound of Thunder’ yn arddangos pob agwedd o gynhyrchu torchog a geiriau ffraeth ‘Hel Clecs’, wedi’i gyflwyno ar drac sain unigryw Mr Phormula. 

I gyd-fynd â’r sengl, mae Hel Clecs wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac sydd wedi greu gan Tony Bizz a Trac 42.