Bydd y prosiect cerddorol ôl-bync o’r Rhondda, Me Against Misery yn rhyddhau ei sengl Gymraeg ddiweddaraf ddiwedd mis Hydref.
‘Gwanwyn’ ydy enw’r trac newydd fydd allan ar 30 Hydref ac sy’n flas o albwm newydd y cerddor.
Prosiect cerddorol unigol Rhys Jones o’r Rhondda ydy Me Against Misery – artist fu’n cyfansoddi’n bennaf yn y Saesneg yn y gorffennol, ond benderfynodd droi nôl at y Gymraeg ar ei albwm ‘Crafangau’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2022.
“Mae’r gan wedi ei ysbrydoli gan ddyfyniad Pablo Neruda” eglura Rhys
“’You can cut all the flowers but you cannot keep spring from coming‘”.
“Mae’r gân yn cynrychioli’r syniad o ddal arno i ronyn o obaith, er gwaetha pa mor anobeithiol y sefyllfa. Gobaith a ffydd bod da yn trechu drwg, a gall yr ysbryd ddynol goresgyn.
“Ry’n ni’n byw mewn cyfnod anodd, mae na lot o bobl yn cael trafferth i jyst bodoli o ddydd i ddydd, yn ariannol ac yn emosiynol. Ond eto mae ’na ddiwylliant o feio pobl am eu tlodi eu hunain, neu beio lleiafrifoedd, yn lle beio yr 1% ar ben y goeden.
“Mae ‘Gwanwyn’ yn gân sy’n herio’r teimlad o unigrwydd a achosir gan yr hinsawdd ry’n ni ynddi, ac yn ein hatgoffa o’r unig beth sydd ar ôl gennym er mwyn ymladd nôl – undod.”
Dywed Rhys fod y sengl yn flas o’r hyn sydd i ddod ar ei albwm newydd fydd yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Fire in the Den of Thieves’ yn fuan yn 2024.
“Mae’r sengl yn ffitio mewn i’r thema mwy eang ar yr albwm nesaf, ‘Fire in the Den of Thieves’, y syniad bod y byd ar dân, mae’r ysbeilio yn parhau ac mae nhw moyn i’r bobol bach ar y gwaelod i dalu’r pris” ychwanega’r cerddor.