‘Yn Ôl i Lydaw’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan y cerddor profiadol, Mered Morris.
Mae’r sengl newydd allan ar label Madryn, a dyma’r cynnyrch diweddaraf gan y canwr-gyfansoddwr sydd yn y gorffennol wedi chwarae gyda Rhiannon Tomos a’r Band, Meic Stevens, Bwchadanas a Sobin a’r Smaeliaid.
“Mae ‘Yn Ôl i Lydaw’ yn gân roc egnïol gyda naws gwerinol” eglura Mered.
“Mae hi’n sôn am ddwy daith i Lydaw: un 40 mlynedd nôl fel gitarydd ym mand Meic Stevens, a’r llall y llynedd. Efo fi’n perfformio ar y trac, mae Elisa Morris – o’r band AVANC – yn canu harmoni a chwarae’r delyn, Aled Wyn Hughes ar y bas a Gwyn ‘Maffia’ Jones ar y dryms.”
Mae ‘Yn Ôl i Lydaw’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Annibyniaeth’ a ryddhawyd ym mis Mawrth gan Mered.